Y ‘Sws Of Life’ i Cool Cymru

Roeddwn yn digwydd cael swper efo Catherine Zeta Jones, as you do, ac mi ofynnais iddi, ar ôl gwydred neu dri o win, fydde hi’n barod i roi mwy o finlliw a chusanu darn o bapur gwyn i mi, er mwyn i ni gopïo ei gwefusau a’u defnyddio fel logo. Cytunodd hi. Cusanodd hi’r papur ac mi wnaethon ni gario ’mlaen i wledda ac yfed. Pan orffennwyd ein logo cŵl, roedd y wasg wrth eu bodd, yn enwedig o glywed mai gwefusau mwya enwog y byd oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r pout. Doedd hi ddim yn ofynnol i mi gyfadde mai colli ‘gwefusau’ Catherine wnes i, ar ôl gormod o win, a doedd neb ddim callach! O fewn ychydig, roedd llythrennau bras ar dop y papurau newydd: ‘Catherine’s pout gives Welsh Club kiss of life’, er bod y gwefusau hynny falle’n dal dan ryw fwrdd yn Soho, ac mi aeth SWS o nerth i nerth. Ar yr un pryd â thwf SWS roedd Catatonia yn sgubo’r siartiau ac roedd y don Gymreig ’ma yn dechre hawlio’r penawdau. Dyma oedd y cyfnod y ganwyd ymadrodd newydd yn y papurau i ddisgrifio’r Gymru Newydd, sef ‘Cool Cymru’.

Yn ystod cyfnod Cool Cymru mi gafodd SWS sylw’r wasg yng Nghymru a Lloegr, a thu hwnt, gyda’r papurau mawrion yn rhuthro i gael llunie Matthew Rhys, Ioan Gruffudd, Rhys Ifans a llawer mwy, a sylw ar deledu a radio Prydeinig hefyd. Mi ymddangosodd Bryn Terfel yn un o bartïon y gymdeithas, a syfrdanu pawb wrth ganu ‘Pen-blwydd Hapus’ a’n hanthem genedlaethol ar risiau’r Groucho Club. O fewn dim, roedd ’na dros bum mil o aelodau, a finne’n cael hwyl y diawl yn trefnu partïon mwy a mwy cofiadwy bob tro. Wedi i’r stori fawr dorri am Monica Lewinsky, mi wnes i logi llong ar y Thames o’r enw HMS President gan eirio’r gwahoddiad, ‘Come and celebrate SWS’s birthday – Let’s all go down on the President!’ Trodd pawb i fyny. Mi drefnais i ddraig fawr wedi ei gwneud o rew, fel vodka luge, i groesawu pawb ar y llong – gymaint gwell na blydi Welsh cake – ac embarasio ambell un sych wrth imi dywallt y fodca i geg y ddraig, tra oedden nhwythau yn gorfod ei sugno o dwll ei thin. Am groeso Cymreig!
Read more stories in the book “Out with It!â€, full of anecdotes of backstage drama, tantrums and embarrassment with celebs, royalty and even his poor mother. Out now.