Library Of Things Comes To Penarth

Katherine PeachCommunity, Featured

Penarth embraces sustainability with a place to donate things you own but don’t need and borrow things you need but don’t own.

A new Library of Things will launch in Penarth town centre in April, giving local residents the opportunity to borrow a range of household items such as a drill, sewing machine or board game. Items will be available to borrow at low cost, with the opportunity to pay in volunteering time or Tempo time credits.

‘Benthyg Penarth’ will be based at The Clockyard, a new community hub based with Rowley’s the Jewellers on Glebe Street, with the additional benefit of an online borrowing platform allowing people to browse, reserve and pay for items online. An electric cargo bike will also enable deliveries and collections around the community and provide active travel opportunities for volunteers.

Local residents are invited to complete an online survey to indicate what kinds of items they’d like donate and borrow, with a donation drive planned for later this month. An information-sharing zoom event will also be held for potential volunteers, with a wide range of roles on offer to suit different people, anyone can sign up to attend the event online.

Gideon Calder, GPG chair said:

“Libraries of Things are a brilliant way of promoting sustainability at the local level- by sharing resources, reducing waste, and encouraging use of our local high street. GPG’s public consultations have shown strong support for having one in Penarth. It’ll be great to get started.”

Becky Harford, co-founder of Benthyg Cymru said:

“The idea for the Library of Things first came about when I has just moved into a new house with a big garden but couldn’t afford to buy a lawnmower. I didn’t know anyone locally to borrow one and didn’t drive to be able to borrow one from friends further away. I came across the idea of tool libraries and when I realised there wasn’t one in my area, decided to set one up myself. The benefits of libraries of things are endless- providing opportunities to share precious resources and create connections with people in your community.”

The project in being run by GPG, with funding from Natural Resource Wales. It is being supported by Benthyg Cymru– a social enterprise set up to develop a network of Libraries of Things around Wales.

Libraries of Things were cited in the recent Welsh government ‘Beyond Recycling’ strategy as facilities that will help grow the circular economy in Wales and achieve zero waste targets by 2050.

Welsh Translation

Mae Penarth yn croesawu cynaliadwyedd gyda lle i roi pethau yr ydych yn berchen arnynt ond nad oes eu hangen, a benthyg pethau yr ydych eu hangen ond nad ydych yn berchen arnynt. 

Bydd ‘Llyfrgell Pethau’ newydd yn lansio yng nghanol tref Penarth ym mis Ebrill, gan roi cyfle i drigolion lleol fenthyg ystod o eitemau cartref fel dril, peiriant gwnïo neu gêm fwrdd. Bydd eitemau ar gael i’w benthyg am gost isel, gyda’r cyfle i dalu mewn amser gwirfoddoli neu trwy gredydau amser ‘Tempo’. 

Bydd ‘Benthyg Penarth’ wedi’i leoli yn y ‘Clockyard’, canolbwynt cymunedol newydd o fewn ‘Rowley’s the Jewellers’ ar stryd Glebe, gyda platfform benthyca ar-lein ar gael a fydd yn caniatáu i bobl bori, archebu a thalu am eitemau ar-lein. Bydd beic cargo trydan hefyd yn galluogi danfoniadau a chasgliadau o amgylch y gymuned ac yn darparu cyfleoedd teithio llesol i wirfoddolwyr. 

Gwahoddir trigolion lleol i gwblhau arolwg i nodi pa fathau o eitemau yr hoffent eu rhoi a’u benthyg [https://www.surveymonkey.co.uk/r/ZN35WB2], gyda bwriad y bydd cyfle i roi eitemau yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd digwyddiad rhannu gwybodaeth ar-lein hefyd yn cael ei gynnal ar xx Mawrth ar gyfer darpar wirfoddolwyr, gydag ystod eang o rolau ar gael i weddu i wahanol bobl, gall unrhyw un gofrestru i fynychu’r digwyddiad ar https://www.eventbrite.co.uk/e/benthyg-penarth-public-meeting-tickets-146733617199

Dywedodd Gideon Calder, cadeirydd GPG: 

“Mae cael Benthyg neu ‘Llyfrgell Pethau’ yn ffordd wych o hyrwyddo cynaliadwyedd ar lefel leol – trwy rannu adnoddau, lleihau gwastraff, ac annog defnydd o’n stryd fawr leol. Mae ymgynghoriadau cyhoeddus GPG wedi dangos cefnogaeth gref i gael un ym Mhenarth. Bydd yn wych cychwyn arni.”

Dywedodd Becky Harford, cyd-sylfaenydd Benthyg Cymru: 

“Digwyddodd y syniad ar gyfer y Benthyg cyntaf pan oeddwn newydd symud i mewn i dŷ newydd gyda gardd fawr ond ni allwn fforddio prynu peiriant torri lawnt. Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un yn lleol i fenthyg un ac nid oeddwn yn gyrru i allu benthyg un gan ffrindiau ymhellach i ffwrdd. Deuthum ar draws y syniad o lyfrgelloedd offer a phan sylweddolais nad oedd un yn fy ardal, penderfynais sefydlu un fy hun. Mae buddion ‘Llyfrgell Pethau’ yn ddiddiwedd – darparu cyfleoedd i rannu adnoddau gwerthfawr a chreu cysylltiadau â phobl yn eich cymuned. ” 

Mae’r prosiect yn cael ei redeg gan GPG, gyda chyllid wrth Adnoddau Naturiol Cymru. Mae’n cael ei gefnogi gan Benthyg Cymru – menter gymdeithasol a sefydlwyd i ddatblygu rhwydwaith o Lyfrgelloedd Pethau ledled Cymru.

Cyfeiriwyd at Lyfrgelloedd Pethau yn strategaeth ddiweddar ‘Mwy nag Ailgylchu’ Llywodraeth Cymru fel cyfleusterau a fydd yn helpu i dyfu’r economi gylchol yng Nghymru a chyflawni targedau di-wastraff erbyn 2050.