Gwyl Fach Y Fro To Go Digital
GWYL FACH Y FRO I FYND YN DDIGIDOL
Bydd Gŵyl Fach y Fro, dathliad blynyddol o gelfyddydau a diwylliant Cymreig ym Mro Morgannwg yn cael ei chynnal yn ddigidol yn 2021.
Bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei ffrydio ar blatfform AM Ddydd Sadwrn, Ebrill 17eg, gan gynnig cyfuniad cyffrous o gerddoriaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant.
Dywedodd Manon Rees O’Brien, Prif Weithredwr Menter Iaith Bro Morgannwg;
“Roedd y t.m ym Menter Iaith Bro Morgannwg yn teimlo y byddai’n anhygoel gallu cynnig cynhyrchiad o safon i artistiaid a gwylwyr gartref i ddathlu popeth sy’n wych am ein hiaith a’n diwylliant. Rhaid diolch i’n cyllidwyr a’n cefnogwyr sydd wedi ein galluogi i ddod . Gŵyl Fach Y Fro atoch eleni.”
A hithau’n gyfnod pryderus i’r celfyddydau, artistiaid, a’r diwydiant digwyddiadau byw, bydd yr ŵyl yn darparu platfform diwylliannol hanfodol a chefnogaeth i’r diwydiant ar adeg pan mae ei angen fwyaf.
Dywedodd Antwn Owen-Hicks o Gyngor Celfyddydau Cymru:
“Rydym yn falch iawn o fedru cefnogi Gŵyl Fach y Fro eleni, sydd yn un o uchafbwyntiau amlwg gweithgarwch Cymraeg ym Mro Morgannwg. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar ffurf ddigidol am y tro cyntaf, ond bydd y rhaglen yn parhau i fod yn llawn grwpiau a gweithgareddau o safon uchel, sy’n siŵr o gynnwys rhywbeth at ddant pawb!”
Yn ogystal .’r gerddoriaeth, darperir elfennau arferol Gŵyl Fach y Fro eleni, gan gynnwys gweithdai i blant a chyfle i fasnachwyr a fyddai wedi cael stondin yn y digwyddiad arferol i gymryd rhan mewn marchnad ddigidol ar Facebook; a bydd gan ysgolion lleol Bro Morgannwg lwyfan digidol i arddangos eu talent.
Mae Menter Iaith Bro Morgannwg wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bro Morgannwg i gynnal Gŵyl Fach y Fro eleni. Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:
“Rwyf mor falch y gall Gŵyl Fach y Fro eleni fynd yn ei blaen gan ei bod yn ddigwyddiad hollbwysig i’r iaith Gymraeg, y celfyddydau a diwylliant ym Mro Morgannwg.”
“Bydd yr ŵyl mis nesaf ychydig yn wahanol i flynyddoedd blaenorol oherwydd y pandemig, ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wylio’r ffrwd a gweld yr amrywiaeth gyfoethog o gerddoriaeth, trafodaethau a gweithgareddau sydd ar gael.”
“Mae’r Cyngor yn gefnogwr brwd Gŵyl Fach Y Fro ac yn awyddus i hyrwyddo unrhyw ddigwyddiad sy’n anelu at hyrwyddo iaith a threftadaeth Cymru.”
Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio ar AM – platfform ar-lein sy’n rhannu a dathlu creadigrwydd Cymru. Mae ap AM am ddim i’w lawrlwytho o Apple App Store a Google Play – www.amam.cymru/ambobdim ac mae modd gwylio ar gyfrifiadur ar www.amam.cymru Am fwy o wybodaeth ac i weld amserlen y digwyddiadau edrychywch allan am gyhoeddiadau ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Bro Morgannwg a Gŵyl Fach y Fro.
English Translation
Gwyl Fach Y Fro To Go Digital
In an ambitious departure from the normal during these difficult times, Gŵyl Fach y Fro Festival, an annual celebration of Welsh language, arts and culture in The Vale of Glamorgan will take place in 2021.
To be streamed on the 17th of April 2021 on the AM platform, the lively and uplifting programme of events will be a very welcome distraction from the current situation and will offer a blend of live music, discussions, and activities for children.
Manon Rees O’Brien, Chief Executive of Menter Iaith Bro Morgannwg said:
“The team at Menter Iaith Bro Morgannwg felt it would be amazing to be able to offer artists and viewers at home a quality production to celebrate all that’s great about our language and culture. Thanks must go to our key funders and supporters who have enabled us to bring you Gŵyl Fach y Fro this year.”
During a worrying time for the arts, artists, and the event industry alike, the festival will provide essential cultural output and industry support at a time when it is most needed.
Antwn Owen-Hicks from The Arts Council of Wales said:
“We’re delighted to be able to support this year’s Gŵyl Fach y Fro, which is one of the highlights of Welsh language activity in the Vale of Glamorgan. The festival will be held in digital format for the first time, but the program will continue to be packed with high quality music and activities, sure to have something for everyone!”
As well as music, Gŵyl Fach y Fro’s usual offerings will be provided, including children’s workshops and traders who would normally have a market stall at the event will also get involved, by trading in a virtual market on Facebook; and Welsh medium schools from the Vale of Glamorgan will have a dedicated platform to showcase their talents. Menter Iaith Bro Morgannwg, a charity which promotes and extends the social use of the Welsh language in the Vale of Glamorgan has been funded and supported by the Welsh Government, the Arts Council of Wales and The Vale of Glamorgan Council to present Gŵyl Fach y Fro 2021.
Cllr Kathryn McCaffer, Vale of Glamorgan Council Cabinet Member for Leisure, Arts and Culture, said:
“I’m so pleased that this year’s Gŵyl Fach y Fro Festival can go ahead as it’s a vitally important event for Welsh language, arts and culture in the Vale of Glamorgan.
“Next month’s festival will be a little different to previous years because of the pandemic, but I’m really looking forward to watching the stream and taking in the rich variety of music, discussions and activities on offer.“
“The Council is a firm supporter of Gŵyl Fach y Fro and keen to champion any event that aims to promote Welsh Language and hertiage.”
The festival will be streamed through AM- an online platform sharing creative work from Wales’ cultural scene. The AM app is free to download fro the Apple App Store and Google Play at www.amam.cymru/ambobdim or available to view on desktop at www.amam.cymru.
For more information and to view the schedule look out for updates on Menter Iaith Bro Morgannwg and Gŵyl Fach y Fro social media channels; Facebook, Twitter and Instagram